Logo

    creadigrwydd

    Explore " creadigrwydd" with insightful episodes like "Dydd Mercher y Mabinogi gyda Dafydd Davies Hughes" and "Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?" from podcasts like ""Storytelling with Michael Harvey" and "Hansh: Blas Cyntaf"" and more!

    Episodes (2)

    Dydd Mercher y Mabinogi gyda Dafydd Davies Hughes

    Dydd Mercher y Mabinogi gyda Dafydd Davies Hughes

    Mae Dafydd wedi bod yn gyfarwydd gyda'r Mabinogi ers yn blentyn. Mae wedi crwydro'r dirwedd a dod i nabod y straeon a'u gweld nhw'n dod yn fyw wrth droedio'r tir a dod i'w nabod nhw 'trwy sodlau eu traed'. 

    Mae'n gweld y Mabinogi fel rhan o'n hunaniaeth fel Cymry a'r cymeriadau fel drych i ni'n hunain a'r ffordd rydym yn ymddwyn yn y byd. Wrth ymweld â'r llefydd mae'r stori yn sôn amdanynt mae bron yn amhosib teimlo mai 'yma ddigwyddodd hi'. Wrth adrodd, rhwng y storïwraig/wr a'r dirwedd a phwy bynnag sydd yn clustfeinio.

    Wrth dyfu gyda'r Mabinogi ffeindiodd bod cymeriadau gwahanol y straeon yn atseinio gyda'i fywyd ei hunan mewn ffyrdd gwahanol nes cyrraedd y rhyfelwr Zen Manawydan sydd yn dadwneud hud a lledrith wrth beidio â gweithredu. Y  mae Dafydd yn edmygydd o fersiwn Guto Dafis o hanes Manawydan.  Y mae cyfweliad gyda Guto nes ymlaen yn y gyfres.

    I gloi mae Dafydd yn dweud mai cwestiynau yw'r Mabinogi. Pwy oeddem ni, pwy ydyn ni a phwy ydyn ni am fod fel Cymry.

    Y mae Dafydd yn gyfarwyddwr Menter y Felin Uchaf ym Mhen Llŷn

    Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?

    Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?
    Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn i’r byd cyhoeddi DIY. Ond, a fydd yr holl ymbalfalu yma ym mhen Dyfan yn helpu Steffan i ddeall creadigrwydd yn well? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi
    Logo

    © 2024 Podcastworld. All rights reserved

    Stay up to date

    For any inquiries, please email us at hello@podcastworld.io