Logo

    meddwl

    Explore "meddwl" with insightful episodes like "Meddwl am Iechyd Meddwl" and "Iechyd Meddwl Pobl Ifanc" from podcasts like ""Am Waith Cymdeithasol" and "Am Iechyd"" and more!

    Episodes (2)

    Meddwl am Iechyd Meddwl

    Meddwl am Iechyd Meddwl
    Meddwl am Iechyd Meddwl: Sgwrs am Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

    Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r rifyn olaf o’r rhaglen arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor.

    Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

    Yn y podlediad yma, mae Gwenan Prysor (Cyfarwyddwr y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol) ag Aled Griffiths (Ymarferydd GIMPPhI/ Seicotherapydd Achrededig) yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

    Yn ystod y drafodaeth fyddech yn clywed am y pwysigrwydd o ddeall y gwahaniaeth rhwng straen meddyliol a salwch meddyliol, yn ogystal â mathau gwahanol o gefnogaeth sydd ar gael.

    Fyddech hefyd yn clywed am ddylanwadau gwahanol ar iechyd meddwl yn cynnwys cymdeithas, COVID 19 a thrawma.

    Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

    Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
    Dyma bodlediad newydd sbon yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD.

    Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i drafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Yn y podlediad hwn fe fyddwn yn trafod pwnc sy'n gynyddol ar y newyddion y dyddiau hyn sef iechyd meddwl pobl ifanc.

    Mae llawer o drafod ar y ffactorau sy'n gallu effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc a bwriad y podlediad hwn ydy agor cil y drws ar rai o'r ffactorau hynny.

    Yn cyfrannu at y drafodaeth mae Dr Mair Edwards (Seicolegydd Clinigol) yng nghwmni Donna Dixon (Darlithydd ac Ymchwilydd yn Ysgol Addysg), Dr Ceryl Davies (Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd) ac Anwen Rhys Jones (Swyddog Ymchwil Ysgol Addysg) o Brifysgol Bangor. Cadeirydd y drafodaeth ydy Rhian Tomos, darlithydd yn Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.

    Mwynhewch y gwrando!

    Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.
    Logo

    © 2024 Podcastworld. All rights reserved

    Stay up to date

    For any inquiries, please email us at hello@podcastworld.io