Logo

    podlediad

    Explore " podlediad" with insightful episodes like "GIGIO #6 - Iwan Fôn (Podcast Hansh)", "Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!", "Clic o'r Archif: Tipyn o Stad", "Iechyd Meddwl... Caryl a Meilir" and "Actio Ambwyti" from podcasts like ""Hansh", "Clic o'r Archif", "Clic o'r Archif", "Hansh" and "Hansh"" and more!

    Episodes (33)

    Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!

    Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!
    Cuddiwch dan y duvet achos maen nhw nôl. Miriam Isaac a Iestyn Arwel fydd yn tynnu tair ffilm arswyd diweddaraf S4C Clic i ddarnau gyda sêr Merched Parchus, sef Hanna Jarman a Mari Beard. Pam fod Dafydd Iwan gwyrdd yn gorwedd yn noeth mewn ffos? Ydy hi’n iawn i ferch olchi ei gwallt mewn sinc? A wnaeth cân newydd Dewi Pws ladd Hywel Gwynfryn? Ydy’r telyn, wedi torri? Mae’r holl ffilmiau a Merched Parchus ar gael i wylio nawr yn adran bocs sets S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets Special Guests: Hanna Jarman and Mari Beard.

    Clic o'r Archif: Tipyn o Stad

    Clic o'r Archif: Tipyn o Stad
    Mae Maes Menai yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth digon cyffredin. Y man perffaith i Miriam a Iestyn holi Heather (yr actores a’r darllenwraig newyddion Jeniffer Jones) o’r gyfres Tipyn o Stâd yn dwll am Ffag y ci, rhinweddau’ kick boxing’ yn erbyn gwerthu rhyw a phapur wal amrywiol y Gurkhas. Bydd hefyd cyfle i ddarganfod gyda beth fyddai ei thad yn y gyfres yn chwarae petai na ‘lockdown’. Dilynwch y linc i weld pob un cyfres Tipyn o Stâd yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779 Special Guest: Jennifer Vaughan Jones.

    Actio Ambwyti

    Actio Ambwyti
    Yw bywyd actor yn siampên, carped coch a minglo 'da selebs i gyd? Neu yw e mwy fel tempio, takeaways a chadw’r cyfrif banc mas o’r coch? Yn y podlediad yma mae’r actorion, a dau o wynebau cyfarwydd Hansh, Iestyn Arwel a Geraint Rhys Edwards yn camu bant o’r llwyfan a thu ôl y llen i drafod realiti’r byd actio. Ma’ nhw’n trafod auditions gwael, bywyd mewn coleg drama a pham dyle Geraint byth drin eich traed. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a chynnwys sydd ddim yn addas i blant.

    Clic o'r Archif: Amdani

    Clic o'r Archif: Amdani
    Yn y bennod ddiweddara o Clic o'r Archif mae Ffion Dafis yn ymuno â Miriam a Iestyn i drafod Amdani, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C a greodd tipyn o gyffro pan y dangoswyd gyntaf ym 1999. Seliwyd y gyfres ar nofel boblogaidd Bethan Gwanas yn sôn am dîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru. Dilynwch y linc i weld y gyfres yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910 Special Guest: Ffion Dafis.

    Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini

    Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini
    Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai tynnu ei bys mas er mwyn i ni allu rhwystro’r argyfwng hinsawdd. Ydi e’n iawn i deimlo ‘euogrwydd eco’? Dyle ni gyd fod fel Greta Thunberg? A beth sy’n apelio am Extinction Rebellion? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi!

    Clic o'r Archif: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig

    Clic o'r Archif: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig
    Dewch i’r Samporiwm yn y bennod yma o Clic O’r Archif. Bydd Caryl Parry Jones yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y clasur Nadoligaidd: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am gynnwys annisgwyl diwedd y ffilm, y ffrog roedd pawb yn ei gasáu a chyfrinach llais peraidd un o’r actorion. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a Caryl Parry Jones yn rhegu! Dilynwch y linc i weld y ffilm yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 Special Guest: Caryl Parry Jones.

    Clic o'r Archif: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

    Clic o'r Archif: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan
    Wp a deis! Raslas bach a mawr! Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd Plwmsan ei hun, Mici Plwm yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y gyfres eiconig: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am ffan annisgwyl y deuawd enwog, beth sy’n gwneud slebjan dda a hanes brawd bach Plwmsan. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a slebjans! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 Special Guest: Mici Plwm.

    Taith i'r Craidd

    Taith i'r Craidd
    Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.

    Iawn Jonis?....Y Podlediad

    Iawn Jonis?....Y Podlediad
    Iawn Jonis? Meddwl bod chi’n gwbod bob dim am iechyd rhyw? Faint o STIs chi’n gallu enwi? Chi’n mynd am check-up yn rheolaidd? Yn y podledid hwn ma’ Ffraid sôn wrth Sam am ei anturiaethau diweddar i weld faint ma’ bobl ifanc Cymru yn gwbod am iechyd rhyw. Ma’ nhw’n trafod be i ddisgwyl yn y GUM clinig, pam bod e ddim yn embarrassing i gael check-up ac ar ôl i chi gal eich testio pam fod cael STI ddim yn ddiwedd y byd. RHYBUDD - Mae’r podlediad hwn cynnwys iaith gref a thrafodaeth am ryw allai fod yn anaddas i blant.

    Ffanibowan: Amser 'Na O'r Mislif

    Ffanibowan: Amser 'Na O'r Mislif
    Ma’ Ffanibowan yn ôl a’r tro hwn maent am drafod y diafol yn dod am de, cyfnod y blodau a mis baner Siapan. Ma’ Heledd a Mari Elin yn trafod pob peth mislifaidd: Pam mae cymaint o dabŵ o amgylch siarad am y mislif? Beth chi’n neud os chi’n ‘Steddfod heb y cynnyrch cywir? Sut mae bod yn wyrdd yn ystod yr amser ‘na o’r mis? Mae’r ddwy yn rhannu profiadau personol, ffeithiau ysgytwol ac yn trafod y cynnyrch ecogyfeillgar diweddaraf i’r rhai ohonom sydd ddim am niweidio’r blaned.

    Rhywlediad Hansh gyda Elin a Katie

    Rhywlediad Hansh gyda Elin a Katie
    Ydyn ni’n siarad digon am ryw yng Nghymru? Yn y podlediad hwn ma’ Elin Meredydd a Katie Hall yn trafod un o’u hoff bynciau - rhyw: Gan rannu eu straeon a’u profiadau personol mewn ffordd agored ac weithiau graffig. Mae’r sgwrs rywiol amrywiol yn neidio o ddirgrynwyr i siâp y serfics, o iechyd rhywiol i beli siglo ac mae gan Elin rhywbeth go arbennig i ddangos i Katie. RHYBUDD: MAE’R PODLEDIAD HWN YN CYNNWYS PYNCIAU GRAFFIG AEDDFED AC IAITH GREF SYDD YN ANADDAS I BLANT A GWRANDAWYR IFANC Do we talk about sex enough in Wales? In this podcast Elin Meredydd and Katie Hall chat about one of their favourite topics - sex: sharing personal stories and experiences in an open and sometimes graphic manner. The varied sex-themed dicussion leaps from vibrators to the shape of the cervix, from sexual health to jiggle balls and Elin has something special to show Katie. WARNING: THIS PODCAST CONTAINS MATURE GRAPHIC THEMES AND LANGUAGE WHICH IS UNSUITABLE FOR CHILDREN AND YOUNGER LISTENERS
    Logo

    © 2024 Podcastworld. All rights reserved

    Stay up to date

    For any inquiries, please email us at hello@podcastworld.io