Logo

    teledu

    Explore " teledu" with insightful episodes like "Gorffennaf 2023 - "dwi wrth fy modd efo gang bach ni"", "Mehefin 2023 - "does na’m siap ar yr ysgol yma ers i Jim Gym adael"", "9: Ian Gwyn Hughes", "8: Olwen Rees" and "Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!" from podcasts like ""Q's", "Q's", "Mwy o Sgwrs Dan y Lloer", "Mwy o Sgwrs Dan y Lloer" and "Clic o'r Archif"" and more!

    Episodes (10)

    9: Ian Gwyn Hughes

    9: Ian Gwyn Hughes
    Yn rhaglen ola’r gyfres fe fydd Elin Fflur yn teithio i’r brifddinas ac i ardd un o leisiau enwoca’ y byd pêl-droed o ddiwedd y 90au ymlaen, y gŵr sydd bellach yn Bennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes. O flaen tanllwyth o dân a goleuadau Caerdydd yn goleuo’r nos cawn glywed am wireddu breuddwyd plentyndod o sylwebu ar Match of The Day, cawn hefyd glywed am y salwch a ddaeth i lorio ei fyd pan yn ei ugeiniau cynnar, ac wrth gwrs fe fyddwn yn ail-fyw holl ramant Pencampwriaeth Ewros 2016. In the very last episode Elin will be heading towards Cardiff and to the garden of one of the most famous voices in the history of Welsh and Premier League football, Ian Gwyn Hughes. In front of a roaring fire and Cardiff’s skyline as a backdrop we’ll hear of his days as a commentator on Match of The Day, we’ll also hear of the illness that floored his world in his youth, and of course we’ll hear of his current role as the FAW’s Head of Public Affairs.

    8: Olwen Rees

    8: Olwen Rees
    Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â’r actores a’r gantores Olwen Rees yng ngardd ei chartref ym mhentref Wenfô ar gyrion Caerdydd. Yn ferch i’r gantores Sassie Rees ac yn briod â’r actor a’r diddanwr Johnny Tudor mae adloniant a pherfformio wedi bod yn ran anferth o’i bywyd ac mae Olwen wedi bod yn serennu ar sgrin ac ar lwyfan ers dros 50 mlynedd. O flaen tanllwyth o dân mae’r atgofion yn llifo o gyfnod ei phlentyndod yng Nghaernarfon, i fwrlwm cyfnod euraidd y byd adloniant yng Nghymru yn y 70au ac fe fydd y ddwy yn trafod dawnsio, teithio, mwynhau bywyd a’r cyfleoedd sydd ar gael i ferched wrth fynd yn hŷn. In this episode Elin visit’s actress and singer Olwen Rees at her home in Wenvoe, Cardiff. Her mother, Sassie Rees, had her own radio and television series, so it is no wonder that Olwen decided to follow in her mother’s footsteps and become a professional singer and actress resulting in a career spanning over fifty years on stage and screen. As the sun goes down, they both settle in front of the fire to reminisce about her upbringing in Caernarfon, the early days of television entertainment in Wales in the 70’s and discuss all sorts from dancing and travelling to the secrets of growing old gracefully.

    Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!

    Clic O'r Archif: Ffilmiau Arswyd!
    Cuddiwch dan y duvet achos maen nhw nôl. Miriam Isaac a Iestyn Arwel fydd yn tynnu tair ffilm arswyd diweddaraf S4C Clic i ddarnau gyda sêr Merched Parchus, sef Hanna Jarman a Mari Beard. Pam fod Dafydd Iwan gwyrdd yn gorwedd yn noeth mewn ffos? Ydy hi’n iawn i ferch olchi ei gwallt mewn sinc? A wnaeth cân newydd Dewi Pws ladd Hywel Gwynfryn? Ydy’r telyn, wedi torri? Mae’r holl ffilmiau a Merched Parchus ar gael i wylio nawr yn adran bocs sets S4C Clic: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets Special Guests: Hanna Jarman and Mari Beard.

    Clic o'r Archif: Tipyn o Stad

    Clic o'r Archif: Tipyn o Stad
    Mae Maes Menai yn rhemp. Tydi car neb yn saff ac mae gwerthu cyffuriau ar gongol y stryd yn beth digon cyffredin. Y man perffaith i Miriam a Iestyn holi Heather (yr actores a’r darllenwraig newyddion Jeniffer Jones) o’r gyfres Tipyn o Stâd yn dwll am Ffag y ci, rhinweddau’ kick boxing’ yn erbyn gwerthu rhyw a phapur wal amrywiol y Gurkhas. Bydd hefyd cyfle i ddarganfod gyda beth fyddai ei thad yn y gyfres yn chwarae petai na ‘lockdown’. Dilynwch y linc i weld pob un cyfres Tipyn o Stâd yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/43735779 Special Guest: Jennifer Vaughan Jones.

    Clic o'r Archif: Amdani

    Clic o'r Archif: Amdani
    Yn y bennod ddiweddara o Clic o'r Archif mae Ffion Dafis yn ymuno â Miriam a Iestyn i drafod Amdani, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C a greodd tipyn o gyffro pan y dangoswyd gyntaf ym 1999. Seliwyd y gyfres ar nofel boblogaidd Bethan Gwanas yn sôn am dîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru. Dilynwch y linc i weld y gyfres yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21677910 Special Guest: Ffion Dafis.

    Clic o'r Archif: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig

    Clic o'r Archif: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig
    Dewch i’r Samporiwm yn y bennod yma o Clic O’r Archif. Bydd Caryl Parry Jones yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y clasur Nadoligaidd: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am gynnwys annisgwyl diwedd y ffilm, y ffrog roedd pawb yn ei gasáu a chyfrinach llais peraidd un o’r actorion. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a Caryl Parry Jones yn rhegu! Dilynwch y linc i weld y ffilm yn adran bocs sets Clic: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 Special Guest: Caryl Parry Jones.

    Clic o'r Archif: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

    Clic o'r Archif: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan
    Wp a deis! Raslas bach a mawr! Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd Plwmsan ei hun, Mici Plwm yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y gyfres eiconig: Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am ffan annisgwyl y deuawd enwog, beth sy’n gwneud slebjan dda a hanes brawd bach Plwmsan. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref a slebjans! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/programme/21589028 Special Guest: Mici Plwm.

    Clic o'r Archif: Tydi Bywyd yn Boen & Tydi Coleg yn Grêt

    Clic o'r Archif: Tydi Bywyd yn Boen & Tydi Coleg yn Grêt
    Pwy sy’n cofio hynt a helynt Delyth wrth iddi lywio’i ffordd drwy fywyd ysgol a choleg? Yn y bennod yma o’r podlediad Clic O’r Archif bydd rhai o wynebau cyfarwydd S4C a Hansh yn bwrw’u llygaid dychanol ar ddwy o gyfresi cwlt archif S4C: Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Grêt. Ma’ nhw’n trafod bob dim; o ffasiwn, steil gwallt a rhywiaeth i Hywel o Pobol y Cwm mewn speedos! Os y’ch chi’n cofio’r gyfres yn cael ei dangos y tro cyntaf ac am ail-fyw anturiaethau Delyth, neu os nag y’ch chi erioed wedi clywed am y gyfres o’r blaen ac ishe gweld sut oedd bywyd cyn y smart phone, dyma’r podlediad i chi. Wedyn ewch i wefan dal i fyny S4C Clic i wylio’r bocs sets. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref! Dilynwch y linc i weld y bocs sets: https://www.s4c.cymru/clic/BoxSets Special Guests: Non Parry and Sam Rhys.
    Logo

    © 2024 Podcastworld. All rights reserved

    Stay up to date

    For any inquiries, please email us at hello@podcastworld.io